Gareth EllisPIERCEYn sydyn fore Sadwrn, Gorffennaf 3ydd, yn 68 oed, bu farw Gareth, Gelli-haf, Llangyndeyrn, Sir Gâr. Gŵr cariadus a ffyddlon Lynwen, tad gofalus a chefnogol Siôn a Gwyn, tad-cu balch Ellis, brawd annwyl Luned, mab-yng-nghyfraith ac ewythr hoffus. Angladd Preifat, ddydd Mawrth Gorffennaf 20fed yn Amlosgfa Llanelli am 3.00yp. Bydd yr angladd yn gadael Llangyndeyrn am 2.15yp ac yn teithio trwy Landdarog am 2.25yp. Croeso i ffrindiau ddangos eu cefnogaeth. Rhoddion er cof, os dymunir, tuag at Urdd Gobaith Cymru neu Glwb Mynydda Cymru trwy law Glanmor Evans a'i Fab, Capel Gorffwys Login, Heol Llangynnwr, Caerfyrddin SA31 2PG Ffôn: 01267 237100 /01267 241626
Keep me informed of updates